Cymorth wedi’i deilwra, rhad ac am ddim, 24/7 i'ch helpu i roi'r gorau i ysmygu
Mae’r Ap Helpa Fi i Stopio yn rhaglen newydd am ddim i bobl sydd eisiau rhoi’r gorau i ysmygu yng Nghymru. Mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mae’n rhoi cefnogaeth syml, wedi’i deilwra i chi i’ch helpu i ddechrau ar eich taith rhoi’r gorau iddi — pryd bynnag y byddwch chi’n barod, ac ar eich cyflymder eich hun.
Os ydych chi’n ystyried y peth, eisiau lleihau faint rydych chi’n ei ysmygu, neu’n barod i roi’r gorau’n gyfan gwbl, mae’r ap yn cynnig popeth rydych chi ei angen mewn un lle cyfleus. Ac os ydych chi byth eisiau rhagor o gymorth, gallwch gysylltu â gwasanaethau Helpa Fi i Stopio yn uniongyrchol o’r ap.
Beth mae'r ap yn ei gynnig
Mae’r Ap Helpa Fi i Stopio yn cynnwys offer defnyddiol i’ch tywys gam wrth gam:
• Cynllun stopio wedi’i greu o gwmpas eich nodau chi
• Awgrymiadau ac offer i’ch helpu i ymdopi â’r ysfa am sigarét
• Y gallu i dracio cynnydd a chofnodi pryd fyddwch chi’n ysu am sigarét, er mwyn i chi weld pa mor bell rydych chi wedi dod
• Negeseuon a nodiadau atgoffa i’ch ysgogi
• Mynediad 24/7, pryd bynnag y byddwch angen hynny
• Dolenni hawdd at wasanaethau Helpa Fi i Stopio lleol
• Traciwr Cynilion sy’n dangos faint o arian rydych chi’n ei arbed drwy beidio ysmygu — stopiwch ysmygu, dechreuwch gynilo!
• Am ddim i lawrlwytho a defnyddio
Mae popeth yn yr ap wedi’i gynllunio i’ch helpu i roi’r gorau iddi mewn ffordd sy’n gweithio i chi.
I bwy mae'r ap?
Mae’r ap am ddim i unrhyw un yng Nghymru.
Mae’n ddelfrydol ar gyfer:
• Pobl sydd eisiau rhoi’r gorau iddi ar eu telerau eu hunain, heb apwyntiadau wyneb yn wyneb na galwadau ffôn
• Unrhyw un sy’n hoffi offer digidol, hyblyg y gallan nhw eu defnyddio pryd bynnag sy’n gyfleus iddyn nhw
• Unrhyw un sydd newydd ddechrau meddwl am roi’r gorau iddi — ond sydd ddim yn hollol barod i ymrwymo eto.
Gallwch ddefnyddio’r ap ochr yn ochr â chyngor arbenigol ein cynghorwyr Helpa Fi i Stopio i gael cefnogaeth a chymhelliant ychwanegol rhwng apwyntiadau.
Rhoi’r gorau i ysmygu yn un o’r pethau gorau y gallwch chi ei wneud er lles eich iechyd – unrhyw oedran.
Rydych chi’n fwy tebygol o roi’r gorau iddi gyda chefnogaeth, ac mae’r Ap Helpa Fi i Stopio yn rhoi’r gefnogaeth honno yng nghledr eich llaw. Does dim rhaid i chi wneud hyn ar eich pen eich hun. Gallwch ddechrau rhoi’r gorau iddi heddiw.