Gwybodaeth i Dimau Fferyllfeydd Cymunedol

Cefnogi Ysmygwyr a Fepwyr: Canllawiau Helpa Fi i Stopio

Mae’r wybodaeth hon yn rhoi eglurhad i dimau fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru ar sut i gynghori a chefnogi unigolion sy’n ysmygu, yn fepio, neu’n defnyddio cynhyrchion nicotin eraill, yn unol â chanllawiau cyfredol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Negeseuon Allweddol

  • Mae Helpa Fi i Stopio yn parhau i fod y gwasanaeth cenedlaethol i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu.

  • Mae Helpa Fi i Stopio yn parhau i fod y gwasanaeth cenedlaethol i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu.

  • Mae nifer cynyddol o bobl sy'n fepio yn ceisio cymorth i roi'r gorau iddi, yn cynnwys trwy fferyllfeydd cymunedol.

  • Mae timau fferyllfeydd yn chwarae rhan allweddol wrth roi cyngor, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac sy’n canolbwyntio ar unigolion, a chyfeirio pobl at gymorth priodol.

Rhoi cyngor ynghylch fepio

Dylai pob cyngor gyd-fynd â Datganiad Sefyllfa ar Fêps Iechyd Cyhoeddus Cymru (2 Chwefror 2026):

Cyngor craidd i'w roi i unigolion sy'n gofyn am gymorth i roi'r gorau i fepio

  • Mae fepio yn llawer llai niweidiol nag ysmygu, ond nid yw heb ei risg.
  • Dylid annog rhai sy’n ysmygu i gyrchu cymorth Helpa Fi i Stopio am ddim fel yr opsiwn cyntaf.
  • Dylid cynghori ysmygwyr sy’n oedolion sy’n dewis peidio â defnyddio gwasanaethau Helpa Fi i Stopio ond sy’n ystyried fepio i’w helpu i roi’r gorau i ysmygu bod newid i fepio yn unig yn lleihau niwed, a bod cymorth ymddygiad Helpa Fi i Stopio yn parhau i fod ar gael iddynt.
  • Nid yw Helpa Fi i Stopio yn gallu darparu fêps am ddim fel cymorth i roi’r gorau i ysmygu.
  • Dylid hysbysu pobl dan 18 oed nad oes llwybr cyfreithiol i gael gafael ar dybaco na fêps, a dylid eu hannog i gyrchu gwasanaethau Helpa Fi i Stopio.
  • Dylid annog pobl nad ydynt yn ysmygu ac nad ydynt mewn perygl o ddychwelyd i ysmygu i roi’r gorau i fepio.
  • Dylai pob cyngor fod yn seiliedig ar dystiolaeth a chanolbwyntio ar yr unigolyn.

• Yn achos unigolion sy’n fepio’n unig ac sy’n dymuno rhoi’r gorau iddi:

  • Archwiliwch eu hanes ysmygu a’r risg o ailddechrau ysmygu.
  • Y flaenoriaeth yw atal pobl rhag dychwelyd i ysmygu.

Llwybrau Cymorth Helpa Fi i Stopio

1. Oedolion, neu Blant a Phobl Ifanc (dan 18 oed), sy'n ysmygu ac yn fepio (defnyddwyr deuol)

  • Dylid eu trin fel ysmygwyr.
  • Yn gymwys i gael cymorth Helpa Fi i Stopio llawn (cymorth ymddygiad ac NRT neu ffarmacotherapi arall), yn cynnwys gwasanaethau mewn fferyllfa.
  • Atgyfeiriwch gleifion sydd â diddordeb ac sy’n gymwys at wasanaethau Helpa Fi i Stopio trwy ddefnyddio’r llwybr atgyfeirio proffesiynol.

Nodyn: Mae unigolion sy’n defnyddio mathau eraill o dybaco yn cynnwys tybaco sy’n cael ei gynhesu nid ei losgi, tybaco cnoi a shisha hefyd yn gymwys i gael cymorth HMQ.

Gellir hefyd cyfeirio ysmygwyr yn uniongyrchol at Helpa Fi i Stopio drwy:

2. Oedolion sy'n fepio’n unig

  • Defnyddiwch Gyngor Byr Iawn (y model Gofyn, Cynghori, Gweithredu) i archwilio’r hanes ysmygu a'r risg o ail-ddechrau ysmygu.

    • Os yw rhywun yn fepio i aros yn ddi-fwg ac mewn perygl o ailddechrau ysmygu
    • Cynghorwch yr unigolyn ei bod hi’n fwy diogel parhau i fepio na bod mewn perygl o ailddechrau ysmygu.
    • Os yw’r risg o ailddechrau’n isel, cyfeiriwch yr unigolyn i ddechrau at gymorth digidol HMQ – Eich Cynllun Rhoi’r Gorau Iddi.
  • Mae Eich Cynllun Rhoi’r Gorau Iddi yn offeryn hunangymorth digidol a ddatblygwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).

    • Yn cynnig cynlluniau rhoi’r gorau i ysmygu wedi’u personoli ar gyfer defnyddwyr tybaco a fêps
    • Wedi’i gynllunio i hwyluso ymdrechion hunan-dywys i roi’r gorau iddi a lleihau niwed, yn enwedig ymhlith oedolion sy’n fepio
  • Mae eich Cynllun Rhoi’r Gorau Iddi ar gael o

  • Neges allweddol sy'n seiliedig ar dystiolaeth

    • Gall y rhan fwyaf o oedolion sy’n fepio (18+) roi’r gorau iddi drwy leihau cryfder ac amlder nicotin yn raddol, heb gymorth ymddygiad dwys na NRT.

Os oes angen cymorth ychwanegol i roi'r gorau i fepio:

Anogwch yr unigolyn i hunangyfeirio i Helpa Fi i Stopio i gael sesiwn cymorth ymddygiad untro ychwanegol drwy:

Unigolion dan 18 oed sy'n fepio

Dylid hysbysu fepwyr o dan 18 oed nad oes llwybr cyfreithiol i gael fêps sy'n cynnwys nicotin, a dylid eu cefnogi i gyrchu gwasanaethau Helpa Fi i Stopio.

Mewn ymateb i’r cynnydd mewn fepio ymhlith plant a phobl ifanc (CYP), mae HMQ yn datblygu cynnig cymorth gwell i ategu gwasanaethau presennol. Disgwylir i’r cynnig hwn gael ei lansio ym mis Medi 2026.

Y model arfaethedig:

  • Yn darparu llwybr cymorth ymddygiad strwythuredig ac amser cyfyngedig
  • Yn dilyn dull rhoi’r gorau iddi’n sydyn, sy’n cyd-fynd ag arferion gorau
  • Gall gynnwys NRT lle bo’n briodol yn glinigol
  • Yn adlewyrchu model rhoi’r gorau i ysmygu sefydledig Helpa Fi i Stopio

Nod y dull hwn yw darparu cymorth mwy dwys, wedi’i deilwra ar gyfer pobl ifanc sy’n ddibynnol ar fêps ac sydd â chymhelliant i roi’r gorau iddi.

Atgyfeiriwch neu cefnogwch hunangyfeirio i Helpa Fi i Stopio drwy’r canlynol:

  • Llwybrau atgyfeirio cenedlaethol (gwefan)
  • Llwybrau’r Bwrdd Iechyd Lleol

Eglurhad pwysig

Nid oes cymorth Helpa Fi i Stopio penodol ar gael i unigolion sy’n ysmygu ac yn fepio ond sydd am roi’r gorau i fepio’n unig. Mae hyn yn adlewyrchu:

  • Diffyg tystiolaeth ar gyfer ymyriad effeithiol
  • Dim budd iechyd ystyrlon o roi’r gorau i fepio wrth barhau i ysmygu

Yr Ap Helpa Fi i Stopio – Cymorth hunangymorth digidol

Mae ap Rhoi’r Gorau i Ysmygu  Helpa Fi i Stopio yn opsiwn digidol cyflenwol o fewn gwasanaethau Helpa Fi i Stopio. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer ysmygwyr sy’n well ganddynt hyblygrwydd, cymorth ar‑ alw neu sy’n wynebu rhwystrau i gyrchu gwasanaethau.

Mae’n darparu cymorth strwythuredig, seiliedig ar dystiolaeth a all wella llwyddiant wrth geisio rhoi’r gorau iddi ac yn gweithredu fel porth i wasanaethau lleol, gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol.

Mae’r ap:

  • Yn cynnig cymorth dwyieithog, am ddim, 24/7
  • Yn cefnogi ymdrechion i roi’r gorau iddi a allai fod heb eu cefnogi fel arall
  • Yn darparu cynllunio personol, adnoddau ymddygiad a chymhelliant
  • Yn annog ymgysylltu â gwasanaethau Helpa Fi i Stopio ehangach

Mae’r ap Helpa Fi i Stopio ar gael drwy:

Disgwylir y bydd modiwl rhoi’r gorau i fepio pwrpasol ar gael ym mis Medi 2026.

Cymera'r cam cyntaf Ffonia ni, neu gad i ni dy ffonio di

Rho dy ffydd ynom ni i dy helpu i roi’r gorau i smygu. Ffonia ni ar 0800 085 2219 neu rho dy fanylion a byddwn yn dy ffonio.

Rydyn ni'n croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

I bobl sy’n fyddar, wedi’u byddaru neu sy’n drwm eu clyw, anfonwch e-bost i [email protected] gyda’ch manylion a’ch anghenion a byddwn yn cysylltu â chi gydag amrywiaeth o opsiynau yn eich ardal leol.