Rhannwch eich taith rhoi'r gorau i ysmygu

Cwestiynau cyffredin

Pryd y byddaf yn derbyn y daleb(au)?

Os cewch eich dewis i gymryd rhan yn yr astudiaethau achos, byddwch yn derbyn eich taleb(au) unwaith y bydd y broses hon wedi’i chwblhau (er enghraifft, y diwrnod ar ôl i’r ffilmio neu’r i’r cyfweliad ddigwydd). Caniatewch 1–2 ddiwrnod gwaith ar ôl hynny i’r daleb(au) gael eu hanfon atoch. Dim ond y rhai sydd wedi’u dewis ac sydd wedi cymryd rhan yn yr astudiaethau achos fydd yn derbyn talebau.

Os byddaf yn dewis rhannu fy stori ar fideo, pryd fydd y ffilmio’n digwydd?

Nid oes dyddiadau penodol wedi’u pennu ar gyfer y ffilmio, ond rydym yn disgwyl y bydd yn digwydd ym mis Tachwedd. Bydd y tîm a Rockadove yn cydweithio i gytuno ar ddyddiadau ac amseroedd addas i chi.

Ble fydd y ffilmio’n digwydd?

Bydd y tîm cynhyrchu yn cytuno ar leoliad gyda chi lle byddwch yn teimlo’n gyfforddus – gallai hyn fod yn eich cartref neu’n agos at eich cartref.

Pa mor hir fydd y ffilmio’n para?

Caniatewch rhwng hanner diwrnod a diwrnod cyfan ar gyfer y ffilmio.

Sut bydd rhannu fy stori ysgrifenedig yn gweithio?

Gofynnir cyfres o gwestiynau i chi am eich taith i roi’r gorau i ysmygu, a bydd ffotograff ohonoch yn cael ei dynnu. Bydd hyn yn digwydd wyneb yn wyneb ar ddyddiad ac amser sy’n addas i chi. Mae’n bosibl y bydd y sgwrs yn cael ei recordio er mwyn i’r tîm allu trawsgrifio eich atebion (a sicrhau nad ydym wedi methu unrhyw beth!), ond eich stori ysgrifenedig a’ch ffotograff fydd yn cael eu rhannu.

I’r rhai sy’n cymryd rhan yn y stori lwyddiant wedi’i ffilmio, bydd stori ysgrifenedig hefyd yn cael ei chreu o’r recordiad fideo.

Ble fydd fy stori neu fy fideo yn cael eu rhannu?

Mae’n bosibl y bydd eich stori’n cael ei rhannu ar y sianeli canlynol:

  • Sianeli cyfryngau cymdeithasol Help Me Quit a hysbysebion cyfryngau cymdeithasol taledig
  • Mae’n bosibl y bydd eich bwrdd iechyd lleol hefyd yn rhannu eich stori ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol ac ar ei wefan, os cawsoch gymorth gan gynghorydd lleol Helpa Fi i Stopio neu grŵp rhoi’r gorau i ysmygu
  • Hysbysebion taledig Google (hysbysebion ar-lein)
  • Gwefan Helpa Fi i Stopio
  • Ymgyrchoedd marchnata / posteri yn y dyfodol (byddwn yn cysylltu â chi eto i gael eich caniatâd i wneud hyn)

Beth os byddaf yn newid fy meddwl ar ôl cymryd rhan?

Rydych yn rhydd i dynnu’n ôl o’r ymgyrch ar unrhyw adeg. Os penderfynwch beidio â pharhau, byddwn yn dileu unrhyw ddeunyddiau rydych wedi’u darparu ac ni fyddwn yn eu defnyddio yn yr ymgyrch.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â’r Tîm Marchnata Cymdeithasol yn [email protected]

Cymera'r cam cyntaf Ffonia ni, neu gad i ni dy ffonio di

Rho dy ffydd ynom ni i dy helpu i roi’r gorau i smygu. Ffonia ni ar 0800 085 2219 neu rho dy fanylion a byddwn yn dy ffonio.

Rydyn ni'n croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

I bobl sy’n fyddar, wedi’u byddaru neu sy’n drwm eu clyw, anfonwch e-bost i [email protected] gyda’ch manylion a’ch anghenion a byddwn yn cysylltu â chi gydag amrywiaeth o opsiynau yn eich ardal leol.